Gweithdai dylunio ac arloesi

Pan fydd gennych broblem gymhleth i fynd i'r afael â hi, mae gweithdy arloesi a dylunio yn sicrhau bod eich tîm cyfan yn canolbwyntio ar y broblem, yn rhyddhau eu creadigrwydd i roi cynnig ar syniadau newydd ac yn dechrau mireinio'r rhai mwyaf addawol yn gyflym.

P'un a ydych chi'n dylunio cynnyrch newydd, yn ceisio goroesi rhwystr, angen chwistrellu rhywfaint o greadigrwydd i fireinio'ch prosesau presennol neu eisiau darganfod cyfleoedd newydd, byddwn yn adeiladu'r gweithdy cywir ar gyfer eich tîm.

Mae ein gweithdai arloesi a dylunio yn cyfuno 'Design Thinking' gyda'n fframwaith Alinio - Syniadu - Gweithredu i danio'r broses greadigol, gyda'r gallu i dorri misoedd oddi ar amserlen eich prosiect.

Pryd mae angen gweithdy arloesi neu ddylunio?

Datrys problem

Pan fydd problem yn trafferthu eich tîm neu'n arafu eich prosiect, gall gweithdy arloesi eich helpu. Gan ddefnyddio ein fframwaith Alinio - Syniadu - Gweithredu a 'Design Thinking' bydd eich tîm yn nodi gwraidd y broblem, yn cynnal trafodaethau agored am atebion posibl ac yn dechrau rhoi'r rhai gorau ar waith.

Darganfod cyfleoedd

Pa her ddylem ni ei thaclo nesaf? Pa gynnyrch neu nodwedd fyddai'n helpu ein cwsmeriaid? Beth nad ydym yn ei wneud y dylem fod? Mae gweithdy arloesi yn agor y cwestiynau hyn i'r tîm cyfan, yn creu awyrgylch i feddwl yn greadigol a hyd yn oed yn eich cael chi i weithio ar brototeip. Gwych ar gyfer timau sydd efallai wedi mynd ychydig yn rhy gyfforddus neu'n hunanfodlon!

Parhau i wella

Mae 'Sut gallwn ni wneud hyn hyd yn oed yn well?' yn gwestiwn y dylai pob tîm a phob sefydliad fod yn ei ofyn i'w hunain. P'un a yw'n gynnyrch, gwasanaeth neu broses, mae'n bwysig peidio â chymryd yn ganiataol eich bod wedi cyrraedd y fersiwn gorau posibl. Mae gweithdy arloesi yn annog syniadau creadigol ac yn eich helpu i nodi a mireinio'r rhai gorau.

Dechrau arni

Mae pob busnes da yn datrys problemau i'w defnyddwyr neu gwsmeriaid. Mae darganfod problem y gall eich busnes ei datrys yn dasg fawr, ond gall fod yn anoddach fyth penderfynu ar y ffordd orau i'w datrys! Mae gweithdy dylunio yn arwain eich tîm trwy broses o arloesi - o ddiffinio anghenion eich defnyddwyr i ddarganfod syniadau i adeiladu eich prototeip!

Darganfyddwch fwy amdanom ni ac ein dulliau o weithio

Cymeradwyaeth

Mae ein prif hyfforddwr, Guto Aaron, wedi arwain gweithdai i gleientiaid ledled y DU ac EMEA. Dyma beth sydd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud am eu profiad:

Cysylltwch

Llenwch y ffurflen isod, cynhwyswch neges fer am ba gefnogaeth rydych chi'n chwilio amdano neu beth hoffech chi ofyn i ni.

Invalid Email