Mae arwain tîm yn gyfrifoldeb sy'n gofyn i chi fod yn athro, yn hyfforddwr, yn fodel rôl, yn orfodwr, yn gynghorwr, yn ysbrydoliaeth ac yn fil o rolau eraill. Ond yn rhy aml mae pobl yn cael eu dyrchafu'n arweinwyr neu reolwyr gyda'r disgwyliad y byddant yn dysgu'r sgiliau hyn heb unrhyw gymorth.
A yw eich rheolwyr wedi'u hyfforddi i roi adborth effeithiol, i ddeall pryd i hyfforddi a phryd i addysgu, i arwain cyfarfodydd effeithiol ac i feithrin ymddiriedaeth a diogelwch seicolegol yn eu tîm?
Buddsoddi yn eich arweinwyr canol (a’ch tîm arwain!) yw un o’r camau mwyaf effeithiol y gall cwmni neu sefydliad ei gymryd. Mae ein hyfforddwr Datblygu Arweinyddiaeth wedi arwain rhaglenni arweinyddiaeth ar draws cwmnïau byd-eang fel Shopify a Delivery Hero a gall ddarparu amrywiaeth o opsiynau i’ch timau o sesiynau untro i fodelau cohort.
Modiwlau Poblogaidd
Hyfforddiant i gyd-fynd â'ch anghenion
Gellir dylunio ac addasu ein cynigion datblygu arweinyddiaeth i anghenion eich busnes neu sefydliad. Dyma rai o'r fformatau yr ydym yn dylunio ar eu cyfer yn aml:
- Rhaglen gohort sy'n arwain rheolwyr trwy nifer o'n modiwlau.
- Sesiynau untro i fynd i'r afael ag angen penodol.
- Ystod o sesiynau, sy'n caniatáu i'ch rheolwyr gofrestru ar gyfer y rhai sydd eu hangen arnynt.
- Arbenigwyr i arwain eich rhaglen datblygu arweinyddiaeth mewnol.
Pa bynnag fformat, a pha bynnag fodiwlau sydd eu hangen arnoch, byddwn bob amser yn sicrhau bod y cynnwys yn cael ei addasu i gyd-fynd â'ch anghenion a'ch sefyllfaoedd. Mae ein holl sesiynau hyfforddi yn cael eu harwain gan hyfforddwyr profiadol.
Cymeradwyaeth
Mae ein prif hyfforddwr, Guto Aaron, wedi arwain gweithdai i gleientiaid ledled y DU ac EMEA. Dyma beth sydd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud am eu profiad:






Darganfyddwch fwy amdanom ni ac ein dulliau o weithio
Cysylltwch
Llenwch y ffurflen isod, cynhwyswch neges fer am ba gefnogaeth rydych chi'n chwilio amdano neu beth hoffech chi ofyn i ni.