Amdanom Ni

Ein ffocws ni yw i helpu timau, cwmniau a sefydliadau i ddatrys problemau, gweithio ar y cyd a goroesi rhwystrau.

Ein proses

Mae pob prosiect yn amrywio mewn maint, hyd a gofynion, ond mae'r rhan fwyaf o'n gwaith yn dilyn proses syml, 4 cam:

1. Dysgu

Rydyn ni'n cyfarfod i gael cymaint o wybodaeth â phosib gennych chi am eich sefyllfa a'ch gofynion. Rydym yn cytuno ar gynllun amlinellol.

2. Adeiladu

Rydym yn adeiladu agenda ddrafft ar eich cyfer, yna'n cymryd eich adborth a'ch cwestiynau ac yn mireinio. Byddwn yn parhau i adeiladu a mireinio nes bod gennym y gweithdy iawn i chi.

3. Arwain

Pan fydd y diwrnod ei hun yn cyrraedd, byddwn ni yno i'ch arwain chi a'ch tîm trwy'r gweithgareddau rydyn ni wedi'u hadeiladu. Byddwn yn creu yr awyrgylch gywir i annog trafod agored a sicrhau y cyrhaeddir eich gofynion.

4. Adolygu

Byddwn yn sicrhau bod pawb yn gadael y digwyddiad yn gwybod beth a gyflawnwyd a beth yw eu camau nesaf. Byddwn yn cwrdd â chi eto i rannu adborth a thrafod unrhyw gamau pellach sydd eu hangen.

Ein Ffordd o Weithio

Er mwyn sicrhau ein bod bob amser yn darparu gwasanaeth o'r ansawdd uchaf posibl, rydym yn cadw at ein egwyddorion arewiniol drwy phob rhan o bob prosiect.

Ffocws ar y canlyniad

Rydym yn adeiladu ein hagendâu tuag yn ôl, gan ddechrau gyda'r hyn yr ydych am ei gyflawni. Wrth greu agenda ac wrth arwain y dydd, mae popeth a wnawn yn adeiladu at y nodau hynny.

Agenda i'ch anghenion chi

Wrth adeiladu eich agenda, mae gennym ystod eang o weithgareddau wedi'u hadeiladu dros flynyddoedd o brofiad. Gyda’n gilydd byddwn yn addasu ac yn cyfuno’r gweithgareddau hynny i greu gweithdy pwrpasol sy’n canolbwyntio ar yr hyn rydych am ei gyflawni.

Eich digwyddiad chi

Ein gwaith ni yw helpu eich tîm i gyflawni eich nodau. Rydym yn dod â'r arbenigedd ar weithgareddau, cydweithio ac annog trafod, ond rydym bob amser yn dilyn eich gofynion a'ch gweledigaeth chi.

Ennyn y gorau

Mae ein gweithdai fel arfer yn cynnwys gweithgareddau ymarferol i ennyn diddordeb pawb a chreu gofod lle gall pawb rannu syniadau a bod yn greadigol.

Cyfathrebu clir

O'n sgwrs cyntaf i'r un olaf, byddwn bob amser yn barod i drafod eich prosiect gyda chi ac i wneud newidiadau i sicrhau ein bod yn cyrraedd eich gofynion. Rydym yn cydweithio ar eich digwyddiad, nid yn cymryd drosodd.

Cadw'r hwyl

Datrys problemau mawr, rhannu pryderon a syniadau'n agored, cyflawni gwaith - mae'r rhain i gyd yn rhannau pwysig o weithdy cydweithredol, ond gallant hefyd fod yn ddwys ac yn straen ar ynni. Felly, pan fo'n briodol, rydym yn ychwanegu ychydig o hwyl i'r dydd!

Tair cam gweithdy cydweithredol

Mae pob agenda wedi'i llunio'n arbennig ar gyfer anghenion a dymuniadau eich tîm, ond mae gweithdai MeetBetter yn tueddu i gynnwys 3 cam allweddol: Alinio, Syniadu a Gweithredu.

Alinio

Beth yw'r heriau a'r cyfleoedd? Sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a chyd-destun pwysig yn cael ei rannu.

Syniadu

Annog creadigrwydd a rhannu agored i nodi, datblygu a gwella syniadau sy'n adeiladu tuag at eich amcan.

Gweithredu

Cyflawni amcanion y gweithdy (e.e. creu camau gweithredu, cynllun strategaeth, prototeip)

Ein Gweithdai

Mae gweithdy cydweithredol yn dod â’ch tîm, arweinyddiaeth, grŵp prosiect neu randdeiliaid allweddol ynghyd i ddatrys problem neu gyflawni amcanion (beth bynnag y bônt).

Strategaeth + Cynllunio

Adeiladu strategaeth neu gynllun gweithredu effeithiol i'ch sefydliad neu brosiect ar y cyd fel tîm. Mae ein casgliad o weithgareddau yn annog rhannu syniadau, gobeithion a phryderon tra’n sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud a chynlluniau’n cael eu cytuno

Effeithiolrwydd Tîm

Sicrhewch fod eich tîm wedi ei alinio, llenwch y batri ymddiried, datryswch wrthdaro a darganfyddwch ffyrdd effeithiol o gydweithio. Byddwn yn defnyddio ac yn addasu ein hystod o weithgareddau tîm i adeiladu gweithdy pwrpasol ar gyfer union anghenion eich tîm.

Dylunio ac Arloesi

Pan fydd problem gymhleth i fynd i'r afael â hi, cynnyrch i'w ddatblygu neu broses i'w mireinio, gall gweithdy arloesi eich helpu i danio'r broses greadigol. Byddwch yn yn cydweithio i ddarganfod ac archwylio problemau, rhannu a datblygu syniadau creadigol a dylunio prototeip.

Gwerthuso Prosiect

Mae cymryd yr amser i drafod ac ystyried camgymeriadau (a llwyddiannau!) prosiect yn rhan allweddol o wella'ch hun a'ch tîm. Mae prosiect golwg yn ôl yn rhoi llais i bawb wrth i chi archwilio beth aeth yn dda, beth allai fod wedi mynd yn well a beth sydd angen ei newid.

Dyma Guto

Guto - Presenting (1)

Ein Sylfaenydd a’n Prif Hyfforddwr yw Guto Aaron. Gyda phrofiad eang yn gweithio gyda cwmniau enfawr megis Google a Shopify, mae Guto wrth ei fodd yn dod â phobl at ei gilydd i ddatrys problemau a tyfu fel tîm.

Gyda gyrfa sydd wedi mynd ag ef o'r byd cyfreithiol i fyd addysg ac yna i gwmnïau technoleg byd-eang, mae Guto yn dod â'i brofiad o sut mae pobl yn cyfathrebu, sut maen nhw'n cyfarfod a sut maen nhw'n cydweithio i bob prosiect.

Ei weledigaeth o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gasglu, cydweithio a chyflawni yw'r sail ar gyfer ymagwedd MeetBetter at bob prosiect.

google logo
Shopify_Logo
Conde_Nast_logo
WW_BIG-1d986e25
Lgfl-logo-small
CardiffMet_logo-1 (1)

Cysylltwch

Llenwch y ffurflen isod, cynhwyswch neges fer am ba gefnogaeth rydych chi'n chwilio amdano neu beth hoffech chi ofyn i ni.

Invalid Email