Effeithiolrwydd tîm

Gyda'r angen i gyrraedd targedau a chyflawni'ch amcanion, eich tîm yw'r ased mwyaf hanfodol sydd gennych. Mae treulio amser ar adeiladu, cynnal ac adfer effeithiolrwydd eich tîm yn gwbl hanfodol i unrhyw sefydliad.

Mae ein gweithdai effeithiolrwydd tîm wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ar gyfer anghenion eich tîm, p'un a ydych chi'n dîm newydd neu un sydd wedi hen ennill ei blwyf, yn gweithio'n gytûn neu'n cael trafferth, yn ffrindiau da neu'n ddieithriaid i bob pwrpas.

Bydd eich gweithdy yn cael ei arwain gan arbenigydd sy’n deall pwysigrwydd gwneucreu yr awyrgylch gywir i’ch tîm rannu eu gobeithion, eu hofnau, eu syniadau a, phan fo angen, eu gwendidau.

Pryd mae angen gweithdy effeithiolrwydd tîm?

Tîm newydd

Pan fydd eich tîm newydd ei sefydlu, neu wedi cael newid mawr, mae gweithdy effeithiolrwydd tîm yn helpu i sefydlu ymddiriedaeth, dealltwriaeth a ffyrdd o weithio rhwng y grŵp. Mae ein gweithdai wedi'u hadeiladu'n bwrpasol, gan sicrhau bod y ffocws ar yr agweddau ar waith tîm y mae angen i'ch tîm eu datblygu.

Gwiriad iechyd tîm

Mae angen i hyd yn oed y timau mwyaf llwyddiannus gadw llygad ar lefelau ymddiriedaeth, rhoi cyfleoedd i wyntyllu gobeithion, ofnau a syniadau ac adnewyddu eu ffyrdd o weithio o bryd i'w gilydd. Mae gweithdy effeithiolrwydd tîm yn rhoi cyfle i chi wneud hynny!

Ailosod tîm

Hyd yn oed gyda'r bwriadau a'r ymdrechion gorau, bydd timau'n aml yn cael eu hunain mewn rhigol, twll neu weithiau hyd yn oed mewn gwrthdaro. Mewn sefyllfaoedd o'r fath gallwn gynllunio'n gweithdy effeithiolrwydd tîm i fynd i'r afael â phryderon ac anghenion penodol eich tîm, gan eich helpu yn ôl ar y llwybr i gydweithio a llwyddiannau.

Ffyrdd o weithio

Mae safon cydweithio tîm yn dibynnu ar arddull a phwrpas cyfarfodydd, cyfathrebu mewnol ac allanol, defnydd o dechnoleg, disgwyliadau, adborth a llawer mwy. Mae gweithdy ffyrdd o weithio yn rhoi cyfle i'ch tîm fyfyrio ar sut rydych chi'n cydweithio ar hyn o bryd, dod â syniadau newydd a chytuno ar y llwybr gorau ymlaen.

Darganfyddwch fwy amdanom ni ac ein dulliau o weithio

Cymeradwyaeth

Mae ein prif hyfforddwr, Guto Aaron, wedi arwain gweithdai i gleientiaid ledled y DU ac EMEA. Dyma beth sydd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud am eu profiad:

Cysylltwch

Llenwch y ffurflen isod, cynhwyswch neges fer am ba gefnogaeth rydych chi'n chwilio amdano neu beth hoffech chi ofyn i ni.

Invalid Email