Rydym yn dylunio ac arwain gweithdai tîm a hyfforddiant datblygu arweinyddiaeth o'r safon uchaf.
Cymeradwyaeth
Mae ein prif hyfforddwr, Guto Aaron, wedi arwain gweithdai i gleientiaid ledled y DU ac EMEA. Dyma beth sydd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud am eu profiad:






Gweithdai Tîm
Pan fydd angen i'ch tîm gynllunio a strategaethu, bod yn greadigol, alinio â'u gweledigaeth neu feithrin ymddiriedaeth a gwaith tîm, gall gweithdy cydweithredol eich datblygu yn gyflymach ac yn fwy effeithiol na misoedd o gyfarfodydd ac e-byst.
Bydd ein arweinwyr arbenigol yn eich helpu i adeiladu agenda gweithdy sy'n annog arloesedd, creadigrwydd, rhannu syniadau ac sy'n canolbwyntio ar gyflawni'r nodau terfynol sydd ei angen arnoch ar gyfer eich tîm.
Yna, p'un a ydych chi'n ymgynnull ar y safle neu i ffwrdd, mewn person neu'n rithiol, am hanner diwrnod neu sawl diwrnod, bydd ein arweinwyr yno i arwain eich tîm trwy'r gweithdy. Rydyn ni'n gwybod sut i gynnal diddordeb mynychwyr, sut i annog rhannu syniadau, sut i gadw popeth ar y trywydd iawn tuag at nodau penodol a sut i ychwanegu moment neu ddau o hwyl pan fo angen!
Rydym yn gallu gweithio drwy'r Gymraeg neu'r Saesneg.



Mathau o Weithdai
Mae gweithdy cydweithredol yn dod â’ch tîm, arweinyddiaeth, grŵp prosiect neu randdeiliaid allweddol ynghyd i ddatrys problem neu gyflawni amcanion (beth bynnag y bônt).



Datblygu Arweinwyr
Mae arwain tîm yn gyfrifoldeb sy'n gofyn i chi fod yn athro, yn hyfforddwr, yn fodel rôl, yn orfodwr, yn gynghorwr, yn ysbrydoliaeth ac yn fil o rolau eraill. Ond yn rhy aml mae pobl yn cael eu dyrchafu'n arweinwyr neu reolwyr gyda'r disgwyliad y byddant yn dysgu'r sgiliau hyn heb unrhyw gymorth.
A yw eich rheolwyr wedi'u hyfforddi i roi adborth effeithiol, i ddeall pryd i hyfforddi a phryd i addysgu, i arwain cyfarfodydd effeithiol ac i feithrin ymddiriedaeth a diogelwch seicolegol yn eu tîm?
Buddsoddi yn eich arweinwyr canol (a’ch tîm arwain!) yw un o’r camau mwyaf effeithiol y gall cwmni neu sefydliad ei gymryd. Mae ein hyfforddwr Datblygu Arweinyddiaeth wedi arwain rhaglenni arweinyddiaeth ar draws cwmnïau byd-eang fel Shopify a Delivery Hero a gall ddarparu amrywiaeth o opsiynau i’ch timau o sesiynau untro i fodelau cohort.
Cymeradwyaeth
Mae ein prif hyfforddwr, Guto Aaron, wedi arwain gweithdai i gleientiaid ledled y DU ac EMEA. Dyma beth sydd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud am eu profiad:






Cysylltwch
Llenwch y ffurflen isod, cynhwyswch neges fer am ba gefnogaeth rydych chi'n chwilio amdano neu beth hoffech chi ofyn i ni.