Gwerthuso Prosiect: Trafodaethau gonest, agored ac effeithiol
Mae pob tîm yn deall pwysigrwydd dysgu o’u camgymeriadau (a dysgu o’u llwyddiannau!), ond yn rhy aml rydym yn neidio o un prosiect i’r llall heb gymryd eiliad i fyfyrio’n agored ar yr hyn aeth yn dda, yr hyn nad aeth yn dda a beth dylem newid.
Mae sesiwn werthuso yn para 90-120 munud, fel arfer (ond nid bob amser) yn rithiol, gyda ein hyfforddwr arbenigol yn creu gofod ar gyfer trafodaeth agored rhwng eich tîm ar brosiect (neu gyfnod o brosiect) a gwblhawyd yn ddiweddar.
Mae cael llais annibynnol ein hyfforddwr i arwain yn sicrhau bod pawb yn cael eu clywed, bod y ffocws yn aros ar y problemau nid ar bobl a bod arweinwyr eich tîm yn cael cymryd rhan lawn yn hytrach na chanolbwyntio ar arwain y drafodaeth.
Gall sesiwn werthuso fod yn ddigwyddiad ar ei ben ei hun, neu’n rhan o weithdy hirach (e.e. Strategaeth neu Effeithiolrwydd Tîm).

Sesiwn Werthuso: Pam a Sut?
Mae dod â thîm ynghyd ar gyfer sesiwn bwrpasol i drafod sut aeth y prosiect yn sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed a bod gwersi’n cael eu rhannu drwy’r tîm cyfan. Yn ystod sesiwn weethuso, mae arweinwyr prosiect yn aml yn dysgu llawer mwy nag yr oeddent yn ei ddisgwyl i ddysgu am ba rwystrau a wynebwyd gan aelodau'r tîm.
Cyn gynted â phosibl ar ôl i'ch prosiect, neu gyfnod o brosiect, ddod i ben. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cynllunio eich sesiwn werthuso cyn gynted ag y byddwch yn gweld diwedd y prosiect yn agosáu. Po fwyaf yw’r bwlch rhwng diwedd y prosiect a'r sesiwn, y lleiaf y bydd pobl yn cofio a bydd gwersi a ddysgwyd yn cael llai o effaith.
Nid yn unig y mae ein hyfforddwyr yn dod â chyfoeth o brofiad i arwain sesiwn werthuso, ond maent hefyd yn cynyddu effaith y sesiwn trwy fod yn lais annibynnol. Mae timau yn aml yn fwy agored am y rhwystrau y maent yn eu hwynebu pan fydd arweinwyr y prosiect yn gyfranogwr cyfartal yn y drafodaeth, nid yn ei harwain.
Mae pob sesiwn werthuso yn wahanol, yn dibynnu ar y prosiect, y profiad yn y tîm a lefel yr ymddiriedaeth rhwng aelodau. Bydd y rhan fwyaf o sesiynau gwerthuso, ond nid pob un, yn dilyn strwythur: Beth aeth yn dda, Beth allai fod wedi mynd yn well, Beth ddylem ni ei newid.
Cymeradwyaeth
Mae ein prif hyfforddwr, Guto Aaron, wedi arwain gweithdai i gleientiaid ledled y DU ac EMEA. Dyma beth sydd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud am eu profiad:
Cysylltwch
Llenwch y ffurflen isod, cynhwyswch neges fer am ba gefnogaeth rydych chi'n chwilio amdano neu beth hoffech chi ofyn i ni.